Mark Drakeford AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

26 Ionawr 2018

Annwyl Mark

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

Dyma ysgrifennu atoch mewn perthynas â Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018. Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr Offeryn Statudol hwn yn ei gyfarfod ar 22 Ionawr 2018.

Mae’r Pwyllgor wedi mynegi pryderon ar fwy nag un achlysur ynghylch dibynnu ar reolau cyfreithiol (fel y’u gwelir yn adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978). Mae’r cyfryw reolau yn anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr deddfwriaeth.

Efallai y byddai Llywodraeth Cymru yn synnu at yr holl ymholiadau sy’n cyrraedd clercod a chynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor oddi wrth bobl sydd wedi camddeall deddfwriaeth sy’n mynd drwy’r Cynulliad o ran ei hystyr a’i chymhwyso. Mae hyd yn oed enghreifftiau o gyfreithwyr sydd wedi methu â deall ein deddfwriaeth oherwydd anawsterau yn ymwneud â diffiniadau a sut mae’r diffiniadau hynny yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Mae hyn yn gwbl ddealladwy - nid pawb sy’n gyfreithiwr cyhoeddus sy’n ymdrin beunydd â chymhlethdodau deddfwriaeth Cymru.

Os gellir gwneud rhywbeth bach i helpu darllenwyr i ddeall deddfwriaeth (gan gynnwys rhywbeth cyn lleied a chyn symled â chynnwys troednodyn yn y rheoliadau hyn) yna barn y Pwyllgor yw y dylid gwneud hynny bob amser.

Ein disgwyl yw y bydd y materion hyn yn parhau i godi yn rheolaidd, a bydd y Pwyllgor yn parhau i godi’r mater lle mae’n credu y gellid gwneud deddfwriaeth yn fwy hygyrch ac yn haws ei darllen. Rydym hefyd yn disgwyl y byddai’r materion hyn yn rhan o’n hystyriaethau pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Dehongli ar gyfer Cymru.

Byddaf yn anfon copi o’r llythyr hwn at y Cwnsler Cyffredinol.

Yn gywir,

Mick Antoniw
Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.